Ansawdd dŵr yn Afon Gwy
Gwahoddwyd yr Ymgynghorydd Rhanbarthol, Helen Dale, yn ddiweddar i drafodaeth bwrdd crwn a gynhaliwyd gan Y Gwir Anrhydeddus Dr Thérèse Coffey AS i drafod yr heriau sy'n ymwneud ag ansawdd dŵr yn Afon GwyRoedd y cyfarfod yn cyd-fynd â chyhoeddiad gan Natural England: mae statws cadwraeth Ardal Arbennig ar gyfer Cadwraeth Afon Gwy, wedi cael ei israddio o Adfer Anffafriol i Drywio Anffafriol. Mae hyn yn newyddion siomedig a bydd yn pryderu llawer o'n haelodau sy'n byw, gweithio neu'n rheoli'r tir yn nalgylch yr afon.
Er ein bod yn gwybod bod llawer o aelodau wedi gwneud camau i leihau mewnbynnau ffosffad yn y dalgylch, mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn tynnu sylw at yr angen i bob sector barhau i weithio gyda'i gilydd i ddod â'r afon yn ôl i statws cadwraeth ffafriol.
Mae'r mater ffosffad ar Afon Gwy yn broblem gymhleth. Oherwydd faint o ffosffad etifeddol sydd wedi mynd i mewn i'r dŵr daear a'r pridd dros y degawdau diwethaf, ac sydd bellach yn gollwng i'r Gwy, rydym yn cydnabod na fydd llawer o'r atebion sydd ar gael i ni neu sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd yn rhoi ateb cyflym.
Yr hyn oedd yn glir yn y cyfarfod oedd bod yr holl randdeiliaid yn rhannu angerdd dros yr afon a'u bod yn awyddus i weithio gyda'i gilydd i wneud cynnydd o ran adfer ansawdd dŵr.