GN19-19 Rhentu Doeth Cymru a Chofrestru Landlordiaid Gorfodol
Mae'r nodyn canllaw hwn yn crynhoi'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cofrestru Landlordiaid ac Asiantau Gosod Preswyl yng Nghymru. Rhaid i aelodau CLA fodloni'r gofynion hyn os ydynt yn gosod eiddo preswyl yng Nghymru, naill ai'n uniongyrchol neu drwy asiant. Yn benodol, mae'r Canllaw yn cwmpasu cofrestru gorfodol gyda Rhentu Doeth Cymru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Mae deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r Sector Rhentu Preifat yng Nghymru yn newid. Bydd nodiadau canllaw pellach yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir yn ymwneud â mathau newydd arfaethedig o denantiaeth breswyl a chyfyngiadau ar Ffioedd Landlordiaid ac Asiantau yng Nghymru.