GN22-21 Opsiynau gwresogi carbon isel ar gyfer cartrefi gwledig
Mae adeiladau yn cyfrif am bron i un rhan o bump o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y DU, sy'n ganlyniad i raddau helaeth o losgi tanwyddau ffosil ar gyfer gwresogi. Er mwyn i'r llywodraeth gyrraedd ei tharged sero net uchelgeisiol erbyn 2050, mae angen dileu allyriadau o adeiladau bron yn gyfan gwbl. Mae tri phrif opsiwn ar gyfer lleihau allyriadau: newid ymddygiadol, sy'n gallu gyrru i lawr neu newid patrymau mewn defnydd o ynni, mesurau effeithlonrwydd ynni, sy'n arbed ynni, a throsglwyddo o danwydd ffosil i dechnolegau gwresogi carbon isel.
Er ei bod yn amlwg bod olew ar ei ffordd allan, nid yw bob amser yn glir pa fath gwresogi sydd orau i'w ddisodli. Bydd y nodyn canllaw hwn yn rhoi trosolwg o'r saith prif fath gwresogi: pympiau gwres ffynhonnell aer, pympiau gwres ffynhonnell ddaear, boeleri biomas, gwresogyddion storio is-goch, cadw gwres uchel, rheiddiaduron trydan a LPG.