GN23-21 Da Byw a Mynediad i'r Cyhoedd yng Nghymru a Lloegr
Mae perygl y bydd aelodau'r cyhoedd yn dioddef anaf gan dda byw wrth ddefnyddio hawliau tramwy cyhoeddus neu dir mynediad. Gall y risg hon gael ei waethygu gan bresenoldeb cŵn.
O bryd i'w gilydd mae achosion o'r fath yn denu diddordeb yn y cyfryngau ac yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r potensial i gael anaf a'r posibilrwydd o hawlio.
Mae'r canllawiau hyn yn ystyried sut i reoli da byw ar dir lle mae hawliau tramwy cyhoeddus, neu sy'n dir mynediad.
Ceir gwybodaeth ychwanegol yn y Daflen Wybodaeth Gweithredol Iechyd a Diogelwch “Gwartheg a Mynediad Cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr”: https://www.hse.gov.uk/pubns/ais17ew.pdf Er bod canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn canolbwyntio ar wartheg — oherwydd y ddau ffactor mwyaf cyffredin mewn digwyddiadau yw gwartheg gyda lloi a cherddwyr gyda chŵn — mae'r egwyddorion yn berthnasol i fathau eraill o dda byw, gan gynnwys ceffylau.