Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru)
Ar yr 16eg Rhagfyr cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Papur Gwyn a ddisgwylir yn eiddgar a fydd yn gosod y fframwaith ar gyfer polisi amaethyddiaeth dros y 15 — 20 mlynedd nesaf.
Bydd y cyfnod ymgynghori ochr yn ochr â'r Papur Gwyn yn para tan 25ain Mawrth ac mae gan dîm CLA Cymru gynllun clir ar gyfer ymgynghori ag aelodau drwy weithgorau a chyfarfodydd pwyllgorau. O ran amseru ar gyfer gweithredu polisi yn y dyfodol, mae'r ddogfen yn nodi y bydd Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cael ei osod gerbron y Senedd yn haf 2022.