Brexit: Paratoi busnesau gwledig
Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r camau y bydd angen eu cymryd a lle gall perchnogion busnesau gwledig ddod o hyd i ragor o wybodaeth. Lluniwyd y cyngor yn annibynnol gan arbenigwyr CLANi waeth a oes cytundeb ai peidio ar ôl diwedd y cyfnod pontio gyda'r Undeb Ewropeaidd (UE), bydd y DU yn profi cyfres o newidiadau sydyn sylweddol, ac yn dibynnu ar yr amseru, i sut mae busnesau'n gweithredu. Bydd allforion, mewnforion, lles anifeiliaid, iechyd planhigion, labelu bwyd, trefniadau llafur a thollau i gyd yn newid dros nos.
Mae'r canllawiau hyn, a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Tir a Busnes y Wlad (CLA), yn nodi'r camau y bydd angen eu cymryd a lle gall perchnogion busnesau gwledig ddod o hyd i ragor o wybodaeth. Lluniwyd y cyngor yn annibynnol gan arbenigwyr CLA.
Mae'n nodi:
- Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn;
- Yr angen i fod yn barod am Brexit;
- Rhestr wirio hawdd ei defnyddio o faterion sy'n peri pryder;
- Cynllunio ar gyfer y dyfodol;
- Nodiadau briffio diweddaraf sy'n cwmpasu pob sector
Wrth gwrs, bydd y penderfyniad ynghylch pa gamau i'w cymryd yn unigryw i anghenion pob busnes. Ni fwriad y canllawiau hyn yw gwneud dyfarniad ar y gweithgareddau penodol y dylech fod yn eu gwneud ar ôl 1 Ionawr 2021.
Hyd yn oed os nad ydych yn ymwneud yn uniongyrchol â mewnforio o'r UE neu allforio i'r UE, edrychwch drwy'r ddogfen hon, oherwydd gallai'r newidiadau gael effaith anuniongyrchol ar eich busnes trwy eich cadwyni cyflenwi.
Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i aelodau yng Nghymru a Lloegr. Amlygir adnoddau Cymru-benodol yn Adran 4. Mae'r canllawiau hyn yn diweddaru ac yn disodli Pecyn Cyngor Brexit Dim Cytundeb y CLA, a ddosbarthwyd ym mis Hydref 2019.