Enwau Bwyd Gwarchodedig
Mae'r nodyn briffio hwn yn rhoi gwybodaeth fanwl i berchnogion busnesau gwledig am y camau i'w cymryd a lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ymwneud ag enwau bwyd gwarchodedig ac fe'i lluniwyd yn annibynnol gan arbenigwyr CLADaeth y cyfnod pontio rhwng y DU a'r UE i ben ar 31 Rhagfyr 2020.
Mae'r newidiadau hyn wedi arwain at gyfres o newidiadau sydyn sylweddol, ac yn dibynnu ar yr amseru, i sut mae busnesau gwledig yn gweithredu. Bydd trefniadau ar gyfer y cynhyrchion hynny sydd eisoes wedi cael statws gwarchodedig yn yr UE yn newid. Mae'r nodyn briffio hwn, ac eraill ar wahanol bynciau sydd i'w gweld ar Hyb Brexit CLA, yn rhoi gwybodaeth fanwl i berchnogion busnesau gwledig am y camau y bydd angen eu cymryd a lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ymwneud ag enwau bwyd gwarchodedig ac mae wedi'i lunio'n annibynnol gan arbenigwyr CLA.
Mae'n cwmpasu:
- Beth yw PDOs, PGIs a TSGs;
- Beth sy'n digwydd i'r cynhyrchion hynny o'r DU sydd eisoes â statws gwarchodedig gan yr UE;
- Cynllun Arwyddion Daearyddol y DU;
- Y logos y bydd angen eu defnyddio ar gynhyrchion y DU a sut i'w defnyddio;
- Cydnabod cynhyrchion a ddiogelir gan y DU mewn cytundebau rhyngwladol.
Wrth gwrs, bydd y penderfyniad ynghylch pa gamau i'w cymryd yn unigryw i anghenion pob busnes. Ni fwriad y canllawiau hyn yw gwneud barn ar y gweithgareddau penodol y dylech fod yn eu gwneud, nac am effeithiau tymor hwy ymadawiad y DU o'r UE.