Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cael ei gyflwyno i'r Senedd heddiw: CLA Cymru yn ymateb
Rhaid i ffermwyr a thirfeddianwyr Cymru gael y sicrwydd bod cynllun cystadleuol yn fyd-eang ar gyfer cymorth amaethyddol ar waith erbyn 2025 ac yn mynd yn ddi-dor i farchnad sengl y DUMae datganiad Llywodraeth Cymru yma.
Dywedodd y Cyfarwyddwr, CLA Cymru, Nigel Hollett, “Mae'n rhaid i ffermwyr a thirfeddianwyr Cymru gael y sicrwydd bod cynllun cystadleuol yn fyd-eang ar gyfer cymorth amaethyddol ar waith erbyn 2025 ac yn mynd yn ddi-dor i farchnad sengl y DU. Eisoes mae ffermwyr yn gwneud penderfyniadau hanfodol a fydd yn pennu dyfodol eu busnes pan fydd canlyniad ymarferol y Bil, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ar waith. Gan fod yr argyfwng cost byw yn edrych i fod yn fater hirdymor, mae sicrhau bod bwyd maethlon ar gael yn economaidd i'r gymuned gyfan yn flaenoriaeth genedlaethol. Mae gan gynllun Llywodraeth Cymru rôl hollbwysig i'w chwarae a rhaid i Adran Economi LlC chwarae ei rhan wrth ddatblygu cadwyni cyflenwi fferm-i-fforc. Bydd y Cynllun yn chwarae rhan hanfodol yn ymateb Cymru i'r her fyd-eang ar newid yn yr hinsawdd. Rheoli tir — a'r hyn rydyn ni'n ei dyfu arno — yw ein hunig ateb i'r angen i reoli carbon. Rhaid i'r cynllun chwarae rhan hanfodol wrth alluogi Cymru i gyrraedd ei thargedau sero net heb aberth i ddiogelwch bwyd.”
“Rhaid peidio ag aberthu cynhyrchu bwyd er mwyn plannu coed. Rhaid inni ddatblygu dull cyfannol o fynd i'r afael â'r blaenoriaethau cenedlaethol. Yn yr un modd, rhaid i'r Cynllun sicrhau hyder perchnogion tir a busnesau fferm i gynnal neu adnewyddu trefniadau tenantiaeth.”
Mae Nigel Hollett yn parhau, “Er y bydd strwythur y Bil a datblygiad y cynllun uchaf ar yr agenda, rhaid inni beidio â cholli golwg ar faterion uniongyrchol sy'n effeithio ar ffermwyr Cymru: prisiau uchel tanwydd, gwrtaith a bwyd anifeiliaid, effaith y Rheoliadau Llygredd Amaethyddol a thiwbercwlosis gwartheg.”
“Mae lluoedd marchnad wedi arwain llawer o ffermydd Cymru i arallgyfeirio er mwyn creu ffrydiau refeniw ychwanegol. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth economaidd wledig sy'n cofleidio ac yn cefnogi potensial gwirioneddol yr economi wledig yn ei holl ffurfiau.”
“Addawodd Llywodraeth Cymru “ddim ceiniog yn llai,” yng nghyd-destun y galw cynyddol ar gynhyrchu bwyd a'n hadnoddau naturiol, rhaid i ni sicrhau bod ein diwydiant amaethyddiaeth hanfodol yn derbyn y cymorth sydd ei angen arno.”