Cymorth croeso — ond a fydd yn cyrraedd y rhannau lle mae ei angen fwyaf?
Dylai ffermwyr fanteisio, ond mae angen cymorth mwy systematig mewn dull wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan sgil-gynnyrch amaethyddol“Dylai ffermwyr fanteisio ar Grant Busnes Fferm Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw, ond mae angen rhaglen hirdymor o adnoddau systematig,” meddai Fraser McAuley o CLA Cymru.
“Mae'r croeso mwyaf i'r grant gefnogi buddsoddiad brys i gydymffurfio â'r Rheoliadau Llygredd Amaethyddiaeth a gyflwynwyd y gwanwyn hwn. Mae yno i gefnogi buddsoddiad mewn technoleg ac offer newydd,” ychwanega Fraser, “Ond mae'r angen eang i ddiweddaru seilwaith fferm i fodloni'r rheoliadau yn sylweddol fwy na swm y cyllid sydd ar gael. Mae adroddiadau Llywodraeth Cymru ei hun wedi dangos hyn; felly, mae'n hanfodol bod rhaglen hirdymor o adnoddau systematig yn cael ei sefydlu. Yn yr un modd, mae angen i faint ac amserlennu'r gronfa adlewyrchu'r cynnydd mewn cost ac argaeledd y deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y prosiectau.”
Ychwanega Fraser, “Dim ond mis o hyd yw'r ffenestr ar gyfer ceisiadau o 1 Medi. Mae hyn yn golygu - fel y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG), a gyflwynwyd yn ddiweddar - bod prosiectau sydd eisoes mewn cyflwr cynllunio datblygedig yn fwyaf tebygol o gael eu cyflwyno i'r cynllun. Gallai hyn eithrio buddsoddiad ychwanegol hanfodol mewn meysydd lle mae ei angen fwyaf.”
“Cyn i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar ôl Brexit gael ei amlinellu ym Mil Amaethyddiaeth (Cymru), a'i gyflwyno yn y Senedd y flwyddyn nesaf, dylai busnesau fferm fanteisio ar fentrau cyn y cynllun fel hyn i wneud y mwyaf o'u capasiti i fodloni meini prawf y cynllun. Ond mae angen i'r cynllun ariannu fod yn rhan o raglen hirdymor o fentrau i gefnogi ffermio sydd mor hanfodol i economi Cymru.”
Yng ngoleuni Rheoliadau Llygredd Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru, mae CLA Cymru yn parhau i weithio gyda'r Llywodraeth a sefydliadau eraill i ddatblygu atebion i gynnal cystadleurwydd ffermwyr Cymru.