“Dylai'r Bil drafft hirddisgwyliedig y disgwylir iddo gael ei lansio gan Lywodraeth Cymru yfory dynnu sylw at ddyfodol hirdymor Amaethyddiaeth yng Nghymru. Ond mae'r gostyngiad posibl mewn cyllid ar gyfer y sector yn peri pryder. Daw hyn ar adeg pan mae ffermwyr yn wynebu goblygiadau hynod sylweddol Brexit posibl Dim Bargen, cyfnod pontio anodd a'r ansefydlogrwydd a achosir gan gyfyngiadau Covid 19 - yn rhoi pwysau ychwanegol ar y Llywodraeth wrth iddi ddechrau amlinellu'r strwythur ar gyfer cynllun sefydlog, ymarferol.”
Mae Nigel yn parhau, “Mae pawb sy'n rheoli tir yn awyddus i ddeall sut y bydd cynllun newydd yn gweithio ar lawr gwlad - sut y bydd yn effeithio ar eu busnes. Wrth wraidd, beth bynnag fydd strwythur y cynllun, lefelau cyson o gymorth ariannu i'r sector fydd y bywyd i amaethyddiaeth Cymru ac i'r gymuned wledig.”
“Rhaid i ffermwyr allu cynllunio ymlaen llaw ar sail rhagolygon cadarnhaol a ddarperir gan gyllid digonol a strwythur ymarferol a amlinellir yn y Papur Gwyn.”
“Rydym yn croesawu cyhoeddi'r 'Papur'. Dylai'r cynllun Rheoli Tir Cynaliadwy ddisodli cymhorthdal blanced yr UE gyda fformiwla a fydd yn gwella gwytnwch, cynhyrchiant ac yn gwobrwyo rheolwyr tir yn briodol am yr hyn y maent yn ei gyflawni wrth fodloni uchelgeisiau ehangach cymdeithas. Mae'r rhain yn cynnwys mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gwella iechyd a lles y gymuned, rheoli ein hadnoddau naturiol a'n bio-amrywiaeth yn gyfrifol. Dylai'r cynllun adeiladu bondiau cryfach rhwng ffermwyr a thirfeddianwyr a'r gymuned ehangach.”
“Fodd bynnag, wrth i'r 'Papur Gwyn gael ei gyflwyno mae'n rhaid i ni gael sicrwydd bod adnoddau digonol a chyson ar waith er mwyn i'w gynigion gael eu cyflawni mewn gwirionedd, nawr ac yn y tymor hwy.”