Diweddariad: Bil Amaethyddiaeth (Cymru), 28 Mawrth 2023
Mae'r Uwch Gynghorydd Polisi, Fraser McAuley, yn dod â'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd y Bil yn y Senedd.
Cwblhaodd Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ei ail gam yn y Senedd yr wythnos diwethaf a bydd nawr yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar yr 16eg o Fai.
Yng nghyfnod 2 cafwyd ystod eang o welliannau arfaethedig a drafodwyd gan aelodau o bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd (ETRA). Cefnogodd CLA Cymru - ynghyd ag ystod o randdeiliaid eraill, gan gynnwys yr undebau ffermio - nifer o welliannau gan gynnwys ehangu cwmpas y diffiniad o gynaliadwyedd, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fframwaith aml-flynyddol ar gyfer ariannu amaethyddiaeth. Er ein bod yn siomedig na chytunwyd ar y gwelliannau hyn gan y Pwyllgor ac felly na fyddant yn cyrraedd y cam nesaf, ymrwymodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, sy'n gyfrifol am y Bil, i edrych ar sut i ddod â rhywfaint o sicrwydd am gyllid yng nghyfnod 3, tra'n cydnabod y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y penderfyniad terfynol ar adnoddau'r Cynllun.
Archwiliodd y Pwyllgor hefyd nifer o welliannau eraill ar drefniadau tenantiaeth. Gwnaethom wrthwynebu'r cynigion hyn ac roeddem yn falch o weld na chawsant eu cytuno gan y Pwyllgor ac ni fyddant yn cael eu cynnwys yn y cam nesaf.
Rydym nawr yn aros am ddadl y Cyfarfod Llawn ar 16eg Mai, ac ar gyfer hyn bydd tîm CLA yn gweithio i briffio Aelodau'r Senedd rhag ofn y bydd unrhyw welliannau pellach na fydd er budd yr aelodaeth efallai.
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am gynnydd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yna cysylltwch â fraser.mcauley@cla.org.uk