A fydd Cymru'n dilyn Defra wrth hyrwyddo BPS?
Yr ydym wedi gwneud ymholiadau i Lywodraeth Cymru i gael eglurder a fydd yn dilyn hynny'n addasEfallai y bydd ffermwyr Cymru yn disgwyl datblygiadau gan Lywodraeth Cymru, sy'n adlewyrchu cyhoeddiad Defra, yr wythnos diwethaf, y bydd ffermwyr yn Lloegr yn derbyn ymlaen llaw o 50% o daliad y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) ar gyfer 2022. Mae'r symudiad mewn ymateb i ffermydd sy'n wynebu costau cynyddol gyda phrisiau gwrtaith ac ynni i dynnu pwysau oddi ar lif arian tymor byr.
Dywed Uwch Ymgynghorydd Polisi CLA Cymru, Fraser McAuley, “Mae'r CLA wedi croesawu'r newyddion i symud ymlaen rhandaliad y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) i fis Gorffennaf. Gan fod hwn yn fater y mae'r CLA wedi bod yn galw am weithredu arno er budd ein haelodau, mae'n galonogol gweld bod Defra wedi cydnabod y llif arian a'r cyfyngiadau chwyddiant presennol y mae'r sector amaethyddol yn eu hwynebu, ac o ganlyniad mae wedi gweithredu mesurau i helpu i leddfu'r pwysau hyn ar adeg mor anodd. Mae'n bwysig nodi bod derbynwyr BPS yn Lloegr wedi gweld rhai toriadau i'w taliad BPS cyffredinol wrth i bolisïau ffermio newydd gael eu cyflwyno. Nid yw hyn wedi digwydd yng Nghymru.”
“Fel y mae pethau'n sefyll, eisoes yng Nghymru, mae 70 y cant o gyfanswm hawliad unigolyn ar gyfer mis Hydref wedi'i drefnu i gael ei dalu. Rydym yn parhau i fonitro effaith prisiau mewnbwn uchel a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall ffermwyr Cymru gael cymorth ychwanegol priodol os bydd angen. Rydym yn cadw llygad barcud ar gysondeb a chystadleurwydd gyda'r sector yn Lloegr.”
Ychwanega Fraser, “Yn y cyfnod cyn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Ffermio Cynaliadwy drafft. Bydd y sioe ei hun yn gyfle gwych i'r aelodau gyfarfod â ni ein hunain - a Llywodraeth Cymru - a rhoi eich barn ar sut mae polisi ffermio yn mynd rhagddo yng Nghymru. Byddaf i - a chydweithwyr - yn cyfarfod â'r Gweinidog, swyddogion a chydweithwyr eraill mewn sefydliadau ffermio i sicrhau y bydd y cynllun newydd yn gweithio er budd gorau ffermydd Cymru.”