A allai'r elusen neu'r grŵp cymunedol rydych chi'n eu hadnabod gael arian gennym ni?
Rydym yn galw am geisiadau o Gymru i Ymddiriedolaeth Elusennol CLA ar gyfer dyddiad cau 6 Chwefror
“Rydym yn galw ar fwy o elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru i wneud cais am gyllid gan Ymddiriedolaeth Elusennol CLA cyn y dyddiad cau ar 6 Chwefror 2023,” meddai Nigel Hollett, Cyfarwyddwr CLA Cymru.
“Mae'r Gymdeithas Tir a Busnes Gwlad (CLA) yn gorff aelodaeth ar gyfer rheolwyr tir a busnesau gwledig. Yn rhan o weithgareddau'r CLA, mae'r Ymddiriedolaeth Elusennol yn cefnogi sefydliadau sy'n dod â manteision niferus cefn gwlad i gefnogi iechyd a lles pobl a rhagor o addysg pobl am gefn gwlad. Meysydd blaenoriaeth yw cefnogi pobl ddifreintiedig neu anabl y mae eu hamgylchiadau'n ei gwneud hi'n anodd iddynt brofi cefn gwlad.”
“Yn y gorffennol diweddar yng Nghymru rydym wedi cefnogi gardd synhwyraidd gymunedol, elusen sy'n cefnogi pobl anabl i ddarparu profiadau marchogaeth a hefyd fenter a oedd yn darparu profiadau awyr agored o natur i blant ifanc a oedd wedi cael eu hynysu gan y pandemig.”
“Rydym yn edrych i gefnogi tua 50 o elusennau neu grwpiau cymunedol, gan ddosbarthu tua £200,000 yng Nghymru a Lloegr y flwyddyn. Yn nodweddiadol rydym yn darparu grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer elusennau, grwpiau cymunedol a phrosiectau sy'n bodloni ein meini prawf.”
“Byddem yn croesawu mwy o geisiadau gan sefydliadau sy'n darparu atebion sy'n seiliedig ar natur i fynd i'r afael â materion pwysig y dydd: cynorthwyo'r rhai sydd â heriau iechyd meddwl, anfantais a chynhwysiant cymdeithasol, ffoaduriaid a'r rhai ag anghenion addysgol arbennig.”
“Rydym yn ariannu prosiectau, costau rhedeg a gwaith cyfalaf ar gyfer elusennau bach a chanolig eu maint a sefydliadau dielw gyda phwrpas cymdeithasol clir. Mae ein proses ymgeisio yn gofyn am arddangosiad o angen a budd ar gyfer y buddsoddiad. Nid ydym yn ariannu unigolion, cyllid ôl-weithredol a gwyliau anaddysgol.”
Darganfyddwch fwy yma.