Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i sicrhau y gall ffermwyr a thirfeddianwyr Cymru ddarparu ar gyfer y galw am ymwelwyr, a chystadlu â chyrchfannau gwyliau Lloegr
Mae Llywodraeth San Steffan wedi ymestyn hawliau datblygu a ganiateir o 28 i 60 diwrnod. Rydym yn galw ar lywodraeth Cymru i ddilyn yr un peth i gynnal cystadleurwydd y sector twristiaeth, i gefnogi incwm ffermydd ac i greu capasiti ychwanegol ar gyfer parcio ceir a safleoedd gwersyll pan fydd ei angen fwyaf arnom.“Dylai Llywodraeth Cymru adolygu hawliau cyfreithiol i ddarparu llety gwyliau dros dro, parcio ceir, arlwyo neu safleoedd manwerthu,” meddai Emily Church, Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu, CLA Cymru. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth San Steffan i ymestyn hawliau datblygu a ganiateir (PDRs) yn Lloegr ar gyfer gwersylla hamdden dros dro, o 28 i 60 diwrnod (ar gyfer hyd at 50 o leiniau).
“Gan fod tymor y gwyliau ar ein gweill, mae'n rhaid i ni wneud popeth posibl i gefnogi ein diwydiant twristiaeth wledig yng Nghymru,” ychwanega Emily. “Gweithredodd Llywodraeth San Steffan yn dilyn lobïo dwys ar y pwnc gan y CLA, i gefnogi ffermwyr a thirfeddianwyr yn Lloegr.”
“Gall y symudiad fod o fudd uniongyrchol i bob parti oherwydd gellir darparu capasiti sydd ei angen yn hanfodol ar gyfer parcio ceir, llety, arlwyo a manwerthu pan fydd ei angen ar frys. Rydym wedi gweld sut mae materion difrifol wedi effeithio ar dwristiaid, tirfeddianwyr a chymunedau lleol fel ei gilydd yn ardaloedd poeth gwyliau Cymru.”
“Rhaid i'n sector twristiaeth yng Nghymru fod yn gystadleuol â'i gymar yn Lloegr wrth gynnig opsiynau economaidd i ymwelwyr â Chymru yn yr argyfwng costau byw hirfaith. Yn yr un modd, mewn adegau pan fo costau uchel o danwydd, porthiant a gwrtaith yn pwyso mawr ar incwm ffermwyr Cymru, mae'n bwysig sicrhau bod gan ffermwyr a thirfeddianwyr Cymru opsiynau i greu ffrydiau incwm newydd, dros dro.” Ychwanega Emily, “Wrth wynebu llu o fesurau rheoleiddio newydd: trwydded statudol i reoli llety gwyliau, ardoll ymwelwyr a throthwy heriol i ddarparwyr llety twristaidd Cymru fod yn gymwys ar gyfer Ardrethi Busnes, rhaid i Lywodraeth Cymru geisio a gweithredu i ddarparu buddugoliaethau cyflym i gefnogi'r sector a rhoi hwb mawr ei angen i economi wledig Cymru.”
Y llynedd penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio ag ymestyn estyniad PDRs a oedd wedi bod yn rhan bwysig a llwyddiannus o strategaeth adfer pandemig ar ôl Covid 19. Ychwanega Emily, “Rydym wedi cael ein cynghori nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu ailedrych ar y pwnc ar hyn o bryd.”
“Rhaid i'r llywodraeth archwilio sut y gellir gwella hawliau datblygu a ganiateir, gan ganiatáu ar gyfer gwahanol fathau o weithgarwch busnes, a sicrhau y gellir gosod seilwaith priodol i ddarparu ar gyfer y busnesau hyn i safon ddigonol.”