Llywodraeth Cymru yn lansio ei hymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Bydd CLA Cymru yn parhau i lobïo drwy'r cyfnod Ymgynghori a bydd yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r aelodau i adeiladu ymateb ffurfiol cryf
Welsh Government Sustainable Farming Scheme Consultation header
Dylai ffermydd a busnesau cysylltiedig astudio'r dogfennau'r Ymgynghoriad a godi'r cwestiwn: Sut gall ein busnes symud ymlaen o dan y cynllun hwn? Bydd CLA Cymru mewn cysylltiad â'r aelodau er mwyn sicrhau bod eu barn yn cael eu clywed.

Mae CLA Cymru yn ymateb i lansiad heddiw Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Cadw ffermio.

Dywed Cyfarwyddwr CLA Cymru, Victoria Bond, “Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i weithio'n agos gyda ni drwy gydol y cyfnod Ymgynghori i wella'r cynllun a sicrhau'r nifer fwyaf o bobl sy'n cael ei ddefnyddio pan gaiff ei lansio yn 2025. Yn yr un modd, rydym yn galw ar y Llywodraeth i fagu hyder yn y diwydiant yn ystod cyfnod yr Ymgynghori ac yn y cyfnod o drosglwyddo i'r cynllun newydd, drwy sicrhau sicrwydd cyllidebol i'r sector.”

Ychwanega Victoria, “Byddwn yn tynnu ar ein harbenigedd a'n profiad a'n entrepreneuriaeth amrywiol o fewn ein haelodaeth, wrth i ni barhau i lobïo Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r canlyniad gorau posibl ar gyfer ffermio Cymru — hefyd yn hanfodol ar gyfer yr economi wledig ehangach.”

Cadw ffermwyr yn ffermio