Pleidlais y Senedd yn nodi cynnydd ar y bil ardoll twristiaeth, ond mae pryderon yn parhau

Yn ddiweddar, pleidleisiodd y Senedd o blaid Bil Llety i Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Cymru, gan ei symud yn nes at ddod yn gyfraith er gwaethaf pryderon parhaus.
23.10 CLA - 48
Traeth Mwnt Ceredigion. Credyd Lluniau J Pearce

Yn ddiweddar, pleidleisiodd y Senedd o blaid Bil Llety i Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Cymru, gan ei symud yn nes at ddod yn gyfraith er gwaethaf pryderon parhaus. Roedd y bleidlais yn dilyn misoedd o eiriolaeth gan CLA Cymru, a oedd wedi cyflwyno tystiolaeth fanwl i Bwyllgor Cyllid y Senedd ac wedi ymgysylltu'n uniongyrchol ag Aelodau'r Senedd i dynnu sylw at effaith bosibl y bil ar dwristiaeth Cymru a chymunedau gwledig.

Pwyllgor Cyllid Twristiaeth

Llwyddiant allweddol i CLA Cymru fis diwethaf, oedd cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r diffyg data cadarn sy'n cefnogi'r Bil. Yn ein tystiolaeth, dadleuom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi asesu cynhyrchiant twristiaeth, arferion gwario ymwelwyr, nac effaith economaidd ehangach yr ardoll yn ddigonol, yn enwedig pan gaiff ei ystyried ochr yn ochr â pholisïau twristiaeth eraill fel rheol '182 diwrnod'. Adleisiodd adroddiad y Pwyllgor y pwynt hwn, gan nodi barn yr Athro Calvin Jones bod llunwyr polisi mewn “lle anghyfforddus” oherwydd diffyg dadansoddiad economaidd cynhwysfawr.

Pryder mawr arall a godwyd gan CLA Cymru oedd y risg economaidd posibl a achosir gan yr ardoll. Amlygodd ein cyflwyniad y gallai ychwanegu taliadau ychwanegol at arosiadau dros nos atal yr ymwelwyr hyn sy'n cyfrannu mwy yn economaidd at fusnesau lleol. Cydnabu'r Pwyllgor y mater hwn, gan argymell bod effaith gronnus polisïau twristiaeth yn cael ei asesu'n briodol. Fe wnaethant hefyd alw am adolygiad economaidd ffurfiol o fewn pedair blynedd ar ôl gweithredu'r ardoll.

Canolbwyntiodd CLA Cymru hefyd ar y baich gweinyddol posibl y byddai'r ardoll yn ei roi ar fusnesau bach gwledig, yn ogystal â mwy o fiwrocratiaeth o ran rheoli ar lefel leol a chenedlaethol. Cytunodd y Pwyllgor, gan annog Llywodraeth Cymru i gynnig canllawiau clir wedi'u teilwra i weithredwyr bach.

Pleidlais y Senedd

Gwelodd y bleidlais yn y Senedd 40 o aelodau o blaid, 15 yn erbyn, ac un ymatal.. Tra basio y bil, sicrhaodd CLA Cymru fuddugoliaeth sylweddol: eithrio plant dan 18 oed o'r ardoll, gan gydnabod eu heffaith fach iawn ar seilwaith lleol. Fodd bynnag, mae'r tâl ei hun wedi cynyddu ychydig ar gyfer ymwelwyr eraill, sydd bellach wedi'i osod ar £1.30 a 80c yn y drefn honno.

Er gwaethaf y bil yn pasio, mae pryderon ariannol yn parhau. Mae asesiad effaith yn amcangyfrif, pe bai pob cyngor yn cyflwyno'r ardoll rhwng nawr a 2035, y gallai godi £264 miliwn. Fodd bynnag, rhaid pwyso hyn yn erbyn cyfanswm y costau rhagamcanol o £313 miliwn i £576 miliwn, gan godi cwestiynau am hyfywedd ariannol yr ardoll.

Gan gymhlethu'r mater ymhellach, mae Sir Benfro, ardal twristiaeth allweddol, wedi datgan na fydd yn mabwysiadu'r ardoll, gan gwestiynu'r incwm posibl ymhellach.

O'n hymchwil ar strategaeth dwristiaeth, credwn fod angen dull mwy cyfannol, un sy'n lleihau biwrocratiaeth, yn cefnogi mentrau cynaliadwy, ac yn cynyddu twristiaeth o safon i Gymru.

Mae taith y bil hwn ymhell o fod ar ben. Mae CLA Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i eirioli dros fusnesau gwledig drwy gydol y camau nesaf wrth i'r bil symud i welliannau manwl cyn pleidlais derfynol.

Cyswllt allweddol:

Emily Church
Emily Church Cynghorydd Polisi ac Ymgysylltu, CLA Cymru.