Nid yw cefn gwlad Cymru yn amwynder cyhoeddus
Rhaid i well mynediad lle mae eisoes yn bodoli fod yn egwyddor allweddol sy'n gyrru cynigion Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad y cyhoedd i gefn gwlad,” meddai Charles de Winton o CLA CymruMae Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cyllideb ar gyfer creu'r Goedwig Genedlaethol a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad. Mae'r cyhoeddiad llawn yma
“Rhaid i well mynediad lle mae eisoes yn bodoli fod yn egwyddor allweddol sy'n gyrru cynigion Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad y cyhoedd i gefn gwlad,” meddai Charles de Winton o CLA Cymru, y sefydliad sy'n cynrychioli rheolwyr tir Cymru a busnesau gwledig.
Mae Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Llywodraeth Cymru gwerth £8.1 biliwn yn cynnwys cyllideb o £153 miliwn wedi'i ymrwymo i greu'r Goedwig Genedlaethol a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad.
Dywed Charles, “Bydd rhan o'r adnodd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwella hawliau tramwy cyhoeddus er mwyn creu mynediad mwy ac ehangach i'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae mwy o fynediad yn gofyn am fwy a gwell cyfleusterau ar gyfer parcio cyhoeddus, toiledau a gwaredu gwastraff. Rhaid buddsoddi'r adnodd mewn mwy a gwell arwyddion, mapio ar-lein a gwybodaeth ledled Cymru, gwell camfeydd, gatiau a ffensys.”
“Mae diogelwch y cyhoedd yn hanfodol. Yn ogystal, rhaid i ni hefyd amddiffyn da byw, cnydau a thirweddau sy'n agored i niwed. Mae'n hanfodol cofio nad amwynder cyhoeddus yw'r cefn gwlad: mae'n lle byw ac yn weithle i'r gymuned wledig — mae'n gartref gweithgar yr economi wledig.
Mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth addysg i hyrwyddo ymwybyddiaeth, parch a dealltwriaeth o gyfrifoldebau ymwelwyr, a chreu cyfleuster cymorth i reolwyr tir pan fydd pethau'n mynd o'i le
“Mae polisi Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymestyn mynediad i ystyried tueddiadau a thechnoleg newydd: beicio traws-wlad, ac e-feiciau. Yn amlwg, mae angen llwybrau pwrpasol arnom i sicrhau diogelwch i ddefnyddwyr hawl ffordd eraill. Mae angen adnoddau allanol ar gyfer ein gwasanaethau brys, rhai gatiau arbennig a rhaid i ni egluro rhwymedigaethau pe bai digwyddiadau yn digwydd.”
“Mae ein dyfrffyrdd mewndirol yn rhannau sensitif iawn o'n tirwedd, ac mae galw cynyddol gan nofwyr gwyllt, canŵwyr, caiacwyr a phaddlfyrddwyr mynediad iddynt. Mae angen eglurder arnom ynghylch ble caniateir mynediad ac o dan ba amodau. Mae cyrsiau dŵr mewndirol a'r fflora a'r ffawna sy'n cyd-fynd â hwy yn rhan hanfodol o'n hamgylchedd byw gwledig. Ym mhob achos, rhaid cynnal hawliau eiddo.”
“Gall buddsoddi mewn gwella mynediad i gefn gwlad fod yn rym cadarnhaol, sy'n dod â bywyd i'n mannau gwyrdd a'r gymuned wledig. Rhaid i ni beidio ag ymestyn mynediad am gost i'r amgylchedd a chymuned cefn gwlad.”