Mae gan gwrs addysg botensial i daflu goleuni ar gynhyrchu bwyd yn y DU, meddai CLA
Dywed CLA y dylid dysgu plant ysgol am y rôl flaenllaw y mae ffermwyr yn ei chwarae wrth frwydro yn erbyn newid hinsawdd a dirywiad naturHeddiw, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Nadhim Zahawi AS, yn cyhoeddi TGAU newydd mewn Hanes Naturiol. Mae'r cwrs addysg uwchradd newydd hwn yn ffurfio rhan o Strategaeth Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd yr Adran Addysg, sy'n cael ei lansio ar 21 Ebrill.
Dywed yr Adran Addysg y bydd y cwrs newydd hwn yn helpu “pobl ifanc i ddatblygu gwybodaeth ardderchog o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a chyfleoedd ymarferol i wella bioamrywiaeth a gwydnwch hinsawdd.”
Yng ngoleuni hyn, mae'r Gymdeithas Tir a Busnes Gwlad (CLA) wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i dynnu sylw at bwysigrwydd rheoli tir yn y DU wrth ystyried datblygu'r maes llafur ar gyfer y cwrs dysgu newydd.
Canmolodd Llywydd CLA, Mark Tufnell gyflwyno'r fenter newydd hon, trwy ddweud: “Mae'r CLA yn croesawu'r syniad o ddysgu pobl ifanc am faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd mewn ffordd fwy strwythuredig.”
Mae'r CLA yn croesawu'r syniad o ddysgu pobl ifanc am faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd mewn ffordd fwy strwythuredig.
“Rydym yn gobeithio y bydd yr Adran Addysg, wrth ddylunio'r cwrs, yn ystyried rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o safonau cynhyrchu bwyd o'r radd flaenaf y DU. Mae tirfeddianwyr a ffermwyr Prydain ymhlith y stiwardiaid mwyaf blaengar yr amgylchedd naturiol a geir yn unrhyw le yn y byd.”
Mae Mark yn parhau drwy annog llunwyr polisi i gynnwys y sector mewn ymgynghoriadau drwy ychwanegu: “Rydym yn gobeithio felly y bydd rheolwyr tir sydd ag arbenigedd priodol yn rhan o lunio'r cwricwlwm. Byddai'r CLA, sy'n cynrychioli tua 28,000 o reolwyr tir yng Nghymru a Lloegr, yn croesawu'r cyfle i weithio gyda'r Llywodraeth wrth ddatblygu'r fenter newydd gyffrous hon.”