Bil Amaethyddiaeth yn cael Cydsyniad Brenhinol
Ar ôl tair blynedd, pasiwyd y Mesur Amaethyddiaeth yn gyfraithY mae Mesur Amaethyddiaeth wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar ol tair blynedd.
Daw'r cyhoeddiad bod y Bil Amaethyddiaeth wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar ôl i'r CLA ysgrifennu at 200 o Aelodau Seneddol gwledig, gan rybuddio nad yw'r Llywodraeth yn barod i ddechrau'r newid i'r cynllun nwyddau cyhoeddus newydd, gyda thoriadau mawr yn y Cynllun Taliad Sylfaenol.
Rhybuddiodd, er y bydd y rhan fwyaf o fuddsoddiad yn y dyfodol drwy'r cynllun Rheoli Tir Amgylcheddol newydd (ELMS), na fydd ar gael yn llawn i ffermwyr am bedair blynedd. Yn y cyfamser, bydd toriadau i'r hen gynllun yn dechrau ym mis Ionawr 2021.
Dywedodd Llywydd CLA Mark Bridgeman:
“Ar ôl tair blynedd, mae'n newyddion i'w groesawu bod y Bil Amaethyddiaeth o'r diwedd wedi pasio i gyfraith y DU.
“Dim ond dechrau yw hwn, nid diwedd y broses ar gyfer y diwydiant ffermio. Mae'r Ddeddf Amaethyddiaeth yn ein hatgoffa o'r cyfrifoldebau dwys sydd gennym ni, mewn amaethyddiaeth; i fwydo'r genedl, i helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, a hefyd i helpu i gefnogi ein cymunedau lleol drwy greu swyddi a datblygu economaidd.
“Gyda phwerau newydd y Llywodraeth, mae'n rhaid iddi ymrwymo ei hun i weithio law yn maneg gyda sefydliadau fel y CLA i sicrhau bod polisïau'r dyfodol yn gweithio'n effeithiol ar lawr gwlad mewn gwirionedd, tra'n cael yr uchelgais hefyd i gydnabod potensial yr economi wledig i ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf sy'n wynebu'r wlad, fel newid yn yr hinsawdd.”