CLA yn ymateb i adroddiad y Comisiwn Treth Cyfoeth
'Dylai twf economaidd hirdymor fod yn brif flaenoriaeth y Trysorol'Wrth ymateb i lansiad adroddiad y Comisiwn Treth Gyfoeth, dywedodd Cyfarwyddwr Materion Allanol y CLA Jonathan Roberts:
“Rydym yn cydnabod y straen sylweddol y mae Covid-19 wedi'i roi ar yr economi genedlaethol, a diau y bydd y llywodraeth am archwilio nifer o wahanol opsiynau codi refeniw maes o law. Ond dylai gofio nad oedd yr un wlad erioed wedi trethu ei ffordd i ffyniant.
“Bydd y Llywodraeth yn gwybod y gallai llawer o berchnogion busnesau gwledig, ar bapur, fod yn gyfoethog o asedau ond bod ganddynt arian wrth gefn isel iawn o hyd. Yn aml dyma'r bobl sy'n gwneud fwyaf i fwydo'r genedl, datblygu cynlluniau amgylcheddol neu brosiectau arallgyfeirio i greu swyddi i bobl leol. Rhaid i'r Trysorlys edrych ar y busnesau hyn yn ffafriol mewn unrhyw newid sydd o'n blaenau.
“Yn y cyfamser, mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn hyrwyddo ei hagenda 'lefelu' drwy fuddsoddi yng nghefn gwlad. Mae'r economi wledig, ar hyn o bryd, yn 16% yn llai cynhyrchiol na'r cyfartaledd cenedlaethol — bwlch cynhyrchiant gwerth £43bn yn Lloegr yn unig. Dylai polisïau sydd wedi'u cynllunio i greu twf economaidd cynaliadwy, hirdymor fod yn flaenoriaeth rhif un y Trysorlys.”