Iechyd a Diogelwch Fferm: Beth yw eich rhwymedigaethau?
Mae'r podlediad CLA hwn yn ymdrin â phwysigrwydd arferion a phrosesau iechyd a diogelwch mewn cymunedau ffermio.Mae llawer o fusnesau gwledig yn golygu defnyddio peiriannau mawr am oriau hir ac mae'n bwysig ein bod yn gallu cadw pawb yn ddiogel. Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn y DU yn gyfraith droseddol ac mae gan fusnesau ddyletswydd statudol i gynnal asesiad trylwyr o risgiau a gweithredu polisi a gweithdrefnau i liniaru risgiau.
Mae Libby Bateman, Cynghorydd Gwledig Gogledd CLA, yn trafod sut i liniaru yn erbyn risgiau sy'n gysylltiedig â'r tywydd, sut i sicrhau bod staff a chwsmeriaid yn teimlo'n ddiogel yn y gweithle a'r ddyletswydd sydd ganddynt tuag at ei gilydd, ac yn rhoi cyngor i aelodau ynghylch pa fesurau iechyd a diogelwch i'w hystyried wrth gynnal diwrnod agored ar eu fferm.
Mae Oliver Dale, Rheolwr Gyfarwyddwr Safety Revolution, yn esbonio pam ei bod mor bwysig blaenoriaethu iechyd a diogelwch, y gofynion cyfreithiol i gyflogwyr gynnal asesiad trylwyr o risgiau, a'r atebion technegol sydd ar gael i wneud y gweithle yn fwy diogel.