Fframwaith Cyn-filwyr
Mae'r CLA yn cyhoeddi fframwaith sydd â'r nod o gryfhau'r economi wledig drwy gefnogi'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfogMae'r CLA yn cydnabod y gall y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog chwarae rhan hanfodol wrth adfywio'r economi wledig yng Nghymru a Lloegr. Mae llawer o gyn-filwyr milwrol yn meddu ar sgiliau unigryw a all fod yn hynod werthfawr i gyflogwyr gwledig. Er enghraifft, sgiliau logistaidd o ran rheoli cadwyn gyflenwi, sgiliau arwain ar gyfer datblygu mentrau busnes newydd a sgiliau mecanyddol, y gellir eu defnyddio'n uniongyrchol ar y fferm.
Ond mae bwlch o ran gwybod sut y gall busnesau gwledig ddefnyddio'r gwahanol setiau sgiliau hyn orau. O ystyried y problemau cyflenwi llafur presennol y mae llawer o fusnesau aelodau'r CLA yn eu profi, mae'n dod yn fwyfwy pwysig bod aelodau CLA yn ymwybodol o fanteision tapio i gronfa lafur y cyn-filwyr.
Mae'r CLA wedi datblygu'r Fenter Cyn-filwyr, sy'n ceisio cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o'r grŵp hwn o bobl a darparu strwythur sydd o fudd i fusnesau gwledig a chymuned y cyn-filwyr milwrol.
Mae'r CLA yn cydnabod pwysigrwydd cyn-filwyr fel cronfa lafur sydd ar gael, ond mae angen cael gwell cysylltiadau rhwng cyn-filwyr a chyflogwyr. Drwy'r fenter hon, bydd y CLA yn gweithredu fel cydlynydd rhwng y ddau, a gallwn sefydlu gwell cysylltiadau â rhwydweithiau cymorth cenedlaethol a rhanbarthol. Mae lefel uchel o frwdfrydedd eisoes i'r CLA gymryd rôl fwy rhagweithiol. Mae llawer o'r grwpiau cymorth lleol yn fach ac yn ddarniog; trwy gydlynu gweithgarwch o fewn fframwaith o nodau cyffredin, bydd y CLA yn hyrwyddo deialog wirioneddol gyda grwpiau cyn-filwyr ledled Cymru a Lloegr yn ogystal â chefnogi'r gymuned cyn-filwyr.
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Cyfamod y Lluoedd Arfog yw'r mecanwaith y mae'r CLA yn gwneud sawl addewid trwyddo i gyflawni ein hamcanion wrth gefnogi ein haelodau a'n cyn-filwyr. Rydym yn ymrwymo ein hunain i gyflawni tri addewid:
- Annog aelodau CLA, fel cyflogwyr, i ystyried cyflogi cyn-filwyr y Lluoedd Arfog;
- Lledaenu gwybodaeth i aelodau CLA sy'n cynyddu gwybodaeth ac yn arwain at berthynas fwy cynhwysol gyda'r gymuned filwrol;
- Cysylltu â rhwydweithiau cenedlaethol a rhanbarthol presennol sydd ar hyn o bryd yn cefnogi cyn-filwyr i wella lles meddyliol a chorfforol cyn-filwyr ar ôl iddynt adael y lluoedd arfog.
Cefnogi grwpiau cyn-filwyr
Mae yna lawer o grwpiau cyn-filwyr yng Nghymru a Lloegr sy'n cefnogi'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog. Mae'r grwpiau hyn yn amhrisiadwy wrth weithredu fel pwyntiau cyswllt â'r fyddin a sicrhau bod cyn-filwyr yn derbyn y gefnogaeth y maent yn ei haeddu.
Byddwn yn cefnogi'r grwpiau hyn wrth symud ymlaen drwy ddeialog rheolaidd. Gall y CLA ennill llawer mwy o ymwybyddiaeth o'r heriau y mae cyn-filwyr yn eu hwynebu a thrwy weithio gyda'r grwpiau cymorth hyn, gall y CLA ei hun ac aelodau'r CLA helpu'r gymuned cyn-filwyr. I'r gwrthwyneb, gall y grwpiau cymorth cyn-filwyr hyn gael gwell dealltwriaeth o'r economi wledig a'n helpu i wneud y “ffit orau” rhwng aelodau'r CLA fel cyflogwyr a chyn-bersonél milwrol.
Creu Hyrwyddwyr Cyn-filwyr
Mae'r CLA eisiau sicrhau bod ein hymagwedd tuag at gyn-filwyr mor eang â phosibl er mwyn caniatáu i'r aelodau hynny, sy'n gyn-filwyr yn eu hawl eu hunain neu sydd eisiau helpu yn syml, allu gwneud hynny.
Drwy greu “Hyrwyddwyr Cyn-filwyr” CLA a rhoi rhwydwaith ar waith ar lefel ranbarthol a chenedlaethol byddwn yn ehangu ein cyfathrebu gyda'r lluoedd arfog ar lefel y llywodraeth drwy'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr yn Swyddfa'r Cabinet.
Ond gallwn wneud mwy. Bydd Hyrwyddwyr Cyn-filwyr CLA yn dod â'r neges i bob rhanbarth yng Nghymru a Lloegr drwy hyrwyddo manteision cyflogi cyn-filwyr i aelodau'r CLA a'r economi wledig ehangach.
Gallwn hefyd ddysgu gan yr aelodau CLA hynny sydd hefyd yn gyn-filwyr milwrol. Trwy Hyrwyddwyr Cyn-filwyr CLA, byddwn yn gallu cyrraedd y cyn-filwyr hynny sydd â pherthynas uniongyrchol neu anuniongyrchol â chefn gwlad.
Meithrin mwy o ymwybyddiaeth i fusnesau gwledig
Mae dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gyfyngedig o rôl yr economi wledig a'i chymunedau yn y lluoedd arfog. Er gwaethaf pwysigrwydd diogelwch bwyd a chynnal a chadw'r amgylchedd er budd pawb, mae bwlch mewn dealltwriaeth sylfaenol o pam mae “gwledig” yn rhan annatod o lwyddiant y wlad.
Rydym am sicrhau bod mwy o wybodaeth sydd ar gael y gellir ei rhoi i'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog fel eu bod yn deall y manteision y gall Prydain wledig eu rhoi.
Ac mae'n gweithio'r ddwy ffordd: gellir defnyddio llawer o'r sgiliau a enillwyd gan gyn-filwyr mewn amgylchedd gwledig. O arweinyddiaeth i logisteg, mecaneg i beirianneg, technoleg ddigidol i fapio, gall aelodau CLA ddysgu o brofiadau ac arbenigedd cyn-filwyr. I wneud hyn, dros y misoedd nesaf, byddwn yn tynnu sylw at sut y gall y sgiliau hyn fod o fudd i fusnesau gwledig mewn gwirionedd. Mae cyflogi cyn-filwyr yn ffordd uniongyrchol o leihau'r bwlch sgiliau gwledig.
Camau nesaf
Mae'r CLA ar ddechrau gwneud y cysylltiadau angenrheidiol i ddod â chyn-filwyr a chyflogwyr gwledig at ei gilydd. Drwy wneud y cysylltiadau cywir, gall y fenter cyn-filwyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y modd y canfyddir yr economi wledig, helpu gyda'r prinder llafur a deimlir mor ddwys gan aelodau CLA a chreu perthnasoedd newydd gyda grwpiau cefnogi cyn-filwyr.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn:
- Llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a chyflawni ein tri addewid;
- Cadw yr wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y fenter am y fenter drwy'r ganolbwynt ar-lein hwn;
- Parhau i gwrdd â grwpiau cefnogi cyn-filwyr a'u helpu yn eu gwaith hanfodol;
- Tynnu sylw at y manteision y gall cyn-filwyr eu gwneud i fusnesau aelodau trwy erthyglau rheolaidd yn Tir a Busnes, blogiau, a thrwy'r canolbwynt hwn.
Beth all aelodau CLA ei wneud i helpu?
Gall Aelodau gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ymweld â chanolbwynt Cyn-filwyr yn rheolaidd ar gyfer datblygiadau.
Os hoffech gymryd rhan yn uniongyrchol, cysylltwch â'ch aelod o staff rhanbarthol CLA:
- Charles Trotman, Llundain a'r De Ddwyrain (charles.trotman@cla.org.uk)
- Sarah Fern, De Orllewin (sarah.fern@cla.org.uk)
- Chris Farr, De Orllewin (chris.farr@cla.org.uk)
- Andrew Marriott, Dwyrain (andrew.marriott@cla.org.uk)
- John Greenshield, Canolbarth Lloegr (john.greenshields@cla.org.uk)
- Charles de Winton, Cymru (charles.dewinton@cla.org.uk)
- Kate Bankier, Gogledd (kate.bankier@cla.org.uk)